Is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Waterlevel Limited, yw Albion Eco, a chafodd ei ymgorffori yn 2011. Cafodd drwydded i gyflenwi dŵr yn 2016 a hynny ar gyfer ardal yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru.
Rydym yn awr yn darparu gwasanaethau cyfanwerthu a manwerthu sy’n cynnwys dŵr yfed, a dŵr na ellir ei yfed, i ddefnyddwyr diwydiannol yn ardal Shotton. Mae ein stori’n dechrau yn ôl ym 1999, pan benderfynwyd rhoi’r NAV i Albion Water. Ers hynny, mae tîm Albion wedi cyflenwi dros 130 biliwn litr o ddŵr, gan ddarparu gwasanaeth di-dor. Gan weithio’n agos gyda staff ar safleoedd cyfleustodau a staff gweithrediadol, mae’r tîm wedi cyfrannu at y gwaith o wella perfformiad a chreu proses gynhyrchu ddibynadwy.
Mae adroddiadau diweddaraf Prif Arolygwr yr Arolygiaeth Dŵr Yfed i’w gweld yma. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth sy’n dangos i ba raddau rydym yn cydymffurfio â’r gofynion ansawdd dŵr ac sy’n destament i’n hymrwymiad a’n gwasanaeth rhagorol.
Ar y cyd â’r tîm yn Waterlevel, rydym wedi dechrau ar y gwaith o ehangu’n busnes yn y sector hon a darparu gwasanaethau dŵr sy’n cyfrannu at gymdeithas gref a chynaliadwy, gan gynnwys mesurau lliniaru sy’n sicrhau niwtraliaeth maethynnau ac yn ceisio datrys problemau drwy droi at fyd natur.