Blas ac arogl pren

Os oes blas neu arogl pren ar eich dŵr, fel pren pensil, mae’n bosibl bod eich peipiau’n hen; mae’r peipiau a gafodd eu defnyddio yn y 1960au a’r 1970au fel arfer yn cynnwys alcathen. Dydi hyn ddim yn niweidiol. Bydd blas y dŵr yn gwella os byddwch yn gadael iddo lifo am ychydig funudau. I ddatrys y broblem yn llwyr, bydd angen i chi newid eich pibellau. Cysylltwch â phlymar cymeradwy (watersafe.org.uk) i gael rhagor o gyngor.