Os ydych chi wedi cael pibellau newydd neu wedi newid eich plymwaith yn ddiweddar, mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar flas chwerw neu fetelig ar eich dŵr. Gall y blas fod yn fwy amlwg yn y bore neu ar ôl i’r dŵr fod yn sefyll yn y pibellau am gyfnodau hirach. Gall pibellau sy’n rhedeg yn bell hefyd achosi’r broblem hon. Dylai’r blas wella wrth i’r pibellau setlo ac wrth i haen o galch ffurfio ar y tu mewn iddynt. Os yw’r dŵr yn cynhesu rhywfaint cyn cyrraedd eich tap, gall hynny effeithio ar y blas hefyd. Edrychwch ar gynllun eich pibellau i wneud yn siŵr bod unrhyw bibellau dŵr oer sy’n agos ar bibellau dŵr poeth neu foeleri yn cael eu lagio rhag i’r gwres gael ei drosglwyddo. Gallwch adael i’r dŵr lifo cyn ei ddefnyddio i glirio unrhyw ddŵr sydd wedi bod yn sefyll yn y bibell.




