Os oes blas neu arogl pridd neu lwydni ar eich dŵr, a hynny’n fwy amlwg yn y bore neu pan fydd eich eiddo wedi bod yn wag am gyfnod, gallwch ddatrys y broblem fel arfer drwy agor y tapiau i glirio’r dŵr sydd wedi bod yn sefyll yn eich pibellau. Gofalwch fod eich tanc dŵr oer yn lân a bod caead arno sy’n ffitio’n dda.
Os nad oes blas neu’r arogl ar ddŵr y byddwch yn yfed o dap arall, mae’n debyg mai’r gwastraff yn y trap gwastraff neu’r bibell U o dan y sinc sy’n gyfrifol. Gallwch lanhau’r trap gwastraff neu agor y tapiau ychydig funudau i helpu i ddatrys y broblem.
Os nad ydi hyn yn helpu i ddatrys y broblem, cysylltwch â ni ar 01582 344374 i gael rhagor o gymorth.




