Mae blas neu arogl clorin neu ddiheintydd ar ddŵr yn eithaf cyffredin.
Os ‘Oes/Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.
Oes yna flas fel clorin, cannydd neu ddŵr pwll nofio ar eich dŵr?
Oes yna flas neu arogl clorin ar eich dŵr mewn diodydd oer yn unig?
Ydi’r blas clorin yn waeth ben bore neu’n gynnar fin nos?
Cyngor ynghylch blas ac arogl clorin neu ddiheintydd
Caiff ychydig bach o glorin ei ychwanegu ar y dŵr mewn safleoedd trin dŵr a chaiff y lefelau eu monitro 24 awr y dydd. Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid diheintio’r cyflenwad dŵr a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i’w yfed. Fel arfer, bydd lefel y clorin yn y safle trin dŵr yn llai nag un rhan fesul miliwn (mg/l). Y lefel yn eich pwll nofio lleol yw rhwng 1.5 a 5 rhan fesul miliwn (mg/l).
Weithiau, bydd yr arogl clorin yn fwy amlwg, a hynny oherwydd:
- Pellter eich eiddo o’r safle trin dŵr – bydd lefel y clorin yn dirywio wrth iddo deithio ac agosa’n y byd yw’r eiddo o’r safle trin dŵr, cryfa’n y byd fydd y blas.
- Tymheredd y dŵr – mae clorin yn aros yn hirach mewn dŵr oer.
- Yr amser – mae dŵr yn cael ei ddefnyddio amlaf ben bore ac yn gynnar gyda’r nos. Bryd hynny, bydd y dŵr wedi teithio’n gynt o’r safle trin dŵr a gall gynnwys mwy o glorin.
- Os yw’r brif bibell ddŵr wedi byrstio yn eich ardal neu os yw’r gwasanaethau brys wedi tynnu dŵr o’r bibell, mae’n bosibl bod y dŵr wedi teithio’n gynt o’r safle trin dŵr.
Rhowch gynnig ar y camau a ganlyn i helpu i ddatrys y broblem:
Rhowch jwg o ddŵr yn yr oergell am ychydig oriau cyn ei yfed. Peidiwch â chadw’r dŵr am fwy na 24 awr oherwydd os nad oes clorin ynddo, does dim i atal bacteria rhag tyfu.
Os nad yw cadw dŵr mewn jwg yn yr oergell yn helpu, neu os dim ond mewn diodydd poeth y byddwch yn sylwi ar flas neu arogl clorin, mae’n bosibl bod y clorin yn adweithio’r tu mewn i’r gwaith plymio yn eich eiddo. Gall y clorin adweithio â rhai plastigion a rwberi yn eich gwaith plymio neu’r teclynnau yn eich cegin gan greu blas chwerw, metelig neu flas tebyg i ddiheintydd. Er nad yw hyn yn niweidiol, rydym yn sylweddoli nad yw’n flas da.
Os dim ond mewn diodydd poeth mae’r blas, eich tegell sy’n gyfrifol mae’n debyg. Mae gan y rhan fwyaf o degelli (hyd yn oed rhai metel) ddarnau plastig sy’n gallu adweithio â’r clorin. Os yw’ch tegell yn newydd, dylai’r blas wella’n gyflym. Os yw’ch tegell yn hŷn, efallai y dylech ei newid. I gadarnhau ai’ch tegell yw’r broblem, gwnewch ddiod drwy ferwi dwr mewn sosban i weld a yw’r blas yn dal yno.
Os nad eich tegell yw’r broblem, mae’n bosibl mai un o’r pibelli dŵr hyblyg ar e.e. eich peiriant golchi dillad neu lestri sy’n gyfrifol. I gadarnhau hyn, cymerwch y camau a ganlyn:
- Ynyswch y cyflenwad i’r peiriant
- Tynnwch y bibell hyblyg o’r plymwaith
- Rhedwch y tapiau i fflysio drwy unrhyw ddŵr sydd wedi’i adael yn sefyll yn y bibell hyblyg
- Datgysylltwch y bibell hyblyg am ychydig oriau neu dros nos os yw’n bosibl
- Os yw’r blas wedi mynd, y bibell hyblyg oedd yn gyfrifol. Os felly, bydd angen i chi gael falf arbennig i’w sgriwio ar ben y bibell rhag i ddŵr lifo’n ôl i’ch plymwaith. Gallwch brynu’r rhain yn y rhan fwyaf o siopau DIY.
Os ydych wedi cadarnhau nad eich tegell na’ch pibell hyblyg sy’n gyfrifol am y broblem, mae’n bosibl mai wasier ar y tap sy’n creu’r blas. Gall wasier newydd, neu hen wasier sydd wedi gwisgo, adweithio â’r clorin yn y dŵr. Gosodwch wasier anffenolig yn ei le i weld a yw hynny’n helpu. Gallwch hefyd newid y wasier ar eich stop-tap.




