Darnau mân, staeniau a llysnafedd

Os byddwch yn sylwi ar ddarnau mân yn eich dŵr sy’n teimlo’n llysnafeddog, mae’n bosibl mai sborau llwydni sy’n achosi’r rhain. Maent yn cael eu cludo drwy’r awyr ac yn tyfu mewn llefydd llaith.

Os ‘Oes’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.

Oes yna ddarnau mân yn eich dŵr sy’n teimlo’n llysnafeddog?

Oes yna staeniau/llysnafedd du neu oren ar eich tapiau a phen eich cawod?

Oes yna staeniau/llysnafedd du neu oren yn nrôr sebon eich peiriant golchi neu o gwmpas sêl y drws?

Oes yna staeniau/llysnafedd du neu oren ar eich gwlanenni?

Oes yna staeniau du neu oren yn seston eich toiled neu o amgylch ymyl y toiled?

Cyngor ynghylch darnau mân, staeniau a llysnafedd

Mae sborau llwydni yn yr awyr yn hoffi tyfu mewn mannau llaith, nid ydynt yn dod o’r cyflenwad dŵr ei hun. Maent yn bwydo ar sebon, erosolau, nwyddau ffreshau’r aer a hyd yn oed nwyddau glanhau. Mae sborau llwydni’n gallu gafael ar galch ac mae’n tyfu’n dda arno. Er nad yw’n niweidiol, mae’r llwydni’n edrych yn hyll.

Gallwch gymryd y camau a ganlyn i geisio datrys y broblem:

  • Defnyddiwch gannydd neu sodiwm deucarbonad i gael gwared ar y llwydni – ond os byddwch yn gadael y mymryn lleiaf hyd yn oed, bydd mwy o sborau’n tyfu a daw’r broblem yn ôl.
  • Ceisiwch gael gwared ar y calch lle mae’r llwydni’n tyfu – mae’n caniatáu i’r sborau gael gafael da ar yr wyneb a thyfu.
  • Peidiwch â defnyddio nwyddau ffreshau’r aer ac erosolau mor aml – mae’r rhain yn cynhyrchu maetholion i’r llwydni dyfu.
  • Gadewch ffenestr ar agor neu gosodwch wyntyll echdynnu i awyru’r ystafell yn well.

Gallai darnau eraill yn eich dŵr gynnwys gronynnau gwyn neu lwyd, darnau du caled (yn enwedig os byddwch yn defnyddio jwg hidlo dŵr) neu beli mân oren.

Os yw’r darnau mân yn wyn neu’n llwyd, mae’n debyg mai darnau o galch ydynt. Gallwch ddefnyddio teclyn meddalu dŵr i geisio lleihau’r calch.

Mae’n debyg mai o’r getrisen hidlo yn eich jwg dŵr y daw’r darnau du caled. Edrychwch ar y dŵr sy’n dod o dap y brif bibell ddŵr i wneud yn siŵr nad oes darnau mân ynddo (os oes, cysylltwch â ni ar 01582 344374). Newidiwch eich cetrisen hidlo gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a holwch y gwneuthurwr os bydd y problemau’n parhau.

Mae rhai mathau o feddalwyr dŵr yn ychwanegu sodiwm at eich dŵr, ac yn rhoi blas hallt iddo. Os bydd hyn yn digwydd, efallai’ch bod yn yfed o dap dŵr sydd wedi’i feddalu, neu efallai nad yw’ch teclyn meddalu’n gweithio’n iawn. Gall lefelau uchel o halen yn eich deiet arwain at broblemau iechyd. Os yw’r teclyn meddalu wedi torri, gall ryddhau gleiniau o resin oren i’ch cyflenwad dŵr.