Dŵr afliwiedig

Gall eich dŵr edrych yn ddu, brown, oren, coch, melyn neu las os oes haearn neu gopr ynddo.

Os yw’ch dŵr tap wedi newid ei liw, a hynny ers rhai oriau neu ddiwrnodau, ac os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.

Ydi’ch dŵr tap i’w weld yn ddu, brown, oren, coch neu felyn?

Ydi’ch dŵr tap i’w weld yn clirio os byddwch yn gadael iddo lifo am ychydig?

Ydi’ch dŵr tap wedi cael ei ddiffodd yn ddiweddar?

Ydi pwysedd y dŵr yn is nag arfer?

Ydi’r dŵr o bob tap yn eich eiddo wedi newid ei liw?

Ydi’ch cymdogion yn cael yr un broblem?

Cyngor ar ddŵr afliwiedig – oriau neu ddyddiau

Os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau uchod, mae’n debyg bod gwaith wedi mynd rhagddo ar y brif bibell ddŵr a bod hynny wedi creu gwaddodion haearn. Fel arfer, bydd yn effeithio ar liw’r dŵr am oddeutu 24 awr. Nid yw’r gwaddodion haearn yn niweidiol ond maent yn amharu ar olwg y dŵr.

Gallwch gymryd y camau a ganlyn i geisio datrys y broblem:

  • Agorwch ei tapiau am 30 munud neu ragor
  • Peidiwch â golchi dillad oherwydd gall y dŵr staenio’r dillad
  • Cysylltwch â ni ar 01582 344374 i holi a oes unrhyw waith wedi bod yn mynd rhagddo yn eich ardal
  • Os bydd y broblem yn parhau am dros 24 awr, efallai y bydd angen i ni fflysio’r brif bibell ddŵr, felly cysylltwch â ni ar 01582 344374

Os yw’ch dŵr i’w weld yn wahanol i’r disgrifiad uchod, neu os oes blas neu arogl rhyfedd arno, cysylltwch â ni ar 01582 344374 a byddwn yn ymchwilio ymhellach i’r broblem.

Os yw’ch dŵr tap wedi newid ei liw ers wythnosau neu fisoedd ac os ‘Ydi/Ie’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.

Ydi’ch dŵr tap i’w weld yn ddu, brown, oren, coch neu felyn?

Ydi’ch dŵr tap i’w weld yn clirio os byddwch yn gadael iddo lifo am ychydig?

Ai dŵr o un tap yn unig sydd wedi newid ei liw?

Ydi’r dŵr wedi newid ei liw yn eich eiddo chi ond yn glir yn eiddo’ch cymydog?

Cyngor ar ddŵr afliwiedig – wythnosau neu fisoedd

Os ‘Ydi/Ie’ yw’ch ateb i’r cwestiynau uchod, mae’n debyg mai’r rheswm dros y broblem yw’r pibellau, y plymwaith neu’r tanc haearn sydd i’w cael yn aml mewn eiddo hŷn. Weithiau, gall y rhain ddechrau rhydu a bydd gwaddodion haearn yn effeithio ar liw’r dŵr.

Gallwch gymryd y camau a ganlyn i geisio datrys y broblem:

  • Edrychwch o ble mae’r dŵr yn cael ei fwydo i’r tap. Os yw’n dod o danc, yna efallai y bydd angen glanhau’r tanc neu ei newid. Gofalwch fod caead dros unrhyw danc, a hwnnw’n cau’n dynn.
  • Os yw’r dŵr yn dod yn syth o’r brif bibell ddŵr, ac mae dŵr eich cymydog yn edrych yn iawn, yna mae’n bosibl mai’ch pibell gyflenwi sy’n creu’r broblem.
  • Os yw’r broblem yn parhau, cysylltwch â phlymar cymeradwy (watersafe.org.uk) i ofyn am gyngor.

Sut i weld ai pibell haearn sydd gennych chi

Chwiliwch am y man lle daw’r bibell ddŵr i mewn i’ch eiddo. Fel arfer, bydd yn yr un lle â’r stop-tap y tu mewn i’r eiddo

Os nad yw pibell haearn wedi’i phaentio, bydd yn llwyd neu’n frown rhydlyd fel arfer.

Defnyddiwch fagnet ac os yw’n glynu wrth y bibell, pibell haearn ydi hi

Gallwn roi cyngor i chi ynghylch gosod pibellau newydd. Cysylltwch â ni ar 01582 344374

Os yw’ch dŵr i’w weld yn las, dilynwch y cyngor yn y blwch isod.

Cyngor ynghylch dŵr glas

Mae tanciau dŵr poeth a’r rhan fwyaf o bibellau mewn tai wedi’u gwneud o gopr. Mewn adeiladau newydd iawn neu adeiladau â gwaith plymio newydd, gall ychydig bach o gopr hydoddi yn y dŵr. Fel arfer, nid yw hyn yn creu problemau heblaw am y posibilrwydd y gall staenio, yn enwedig os yw’ch bath neu’ch sinc yn wyn. Fodd bynnag, os yw’r dŵr wedi bod yn sefyll yn hir yn y bibell, gall y dŵr droi ychydig yn las.

Beth ddylwn i ei wneud?

Fel arfer, dim ond am ychydig ddyddiau y bydd y broblem yn para, nes bydd haen o galch yn ffurfio ar y tu mewn i’r peipiau. Os yw’r broblem wedi para am rai wythnosau neu fisoedd, byddwn yn eich cynghori i gysylltu naill ai â’r cwmni a adeiladodd neu adnewyddodd yr eiddo neu â phlymar cymeradwy (watersafe.org.uk). Mae hyn yn digwydd yn amlach os oes gennych chi declyn meddalu dŵr yn yr eiddo.

Rhesymau eraill

Gall y dŵr droi’n las hefyd os byddwch yn defnyddio blociau toiled yn y seston. Os nad oes diogelwch digonol rhag ôl-lifiad, gall hynny hefyd droi’r dŵr yn las mewn tapiau eraill yn yr eiddo. Os byddwch yn sylwi ar hyn, dylech gysylltu â phlymar cymeradwy (watersafe.org.uk) i’ch helpu chi a rhowch wybod i ninnau hefyd.