Swigod aer bach sy’n troi dŵr yn gymylog neu’n wyn. Nid ydynt yn niweidiol ac, fel arfer, byddant yn clirio’n gyflym. Os byddwch yn llenwi gwydr o ddŵr ac yn ei adael i sefyll, dylai’r swigod glirio o waelod y gwydr i fyny. Nid yw’r dŵr yn niweidiol, ac mae’n iawn i’w yfed.
Dau beth sy’n achosi hyn fel arfer
- Os mai problem sydd wedi codi’n ddiweddar yw hon, h.y. ers ychydig oriau neu ddyddiau, mae’n debyg mai gwaith ar y brif bibell ddŵr sy’n gyfrifol.
- Os yw’r broblem wedi para ers rhai wythnosau neu fisoedd, mae’n debyg mai rhywbeth y tu mewn i’ch eiddo sy’n gyfrifol.
Os yw’ch dŵr tap wedi bod yn gymylog ers oriau neu ddyddiau, ac os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.
Ydi’r dŵr tap i’w weld yn llawn swigod, yn gymylog neu’n wyn?
Ydi’r dŵr yn clirio o’r gwaelod i fyny os byddwch yn rhoi dŵr mewn gwydr?
Ydi’r dŵr yn clirio ar ôl iddo lifo o’r tap am ychydig?
Ydi pwysedd y dŵr yn is nag arfer?
Ydi’r dŵr yn gymylog ym mhob un o’r tapiau yn eich eiddo?
Ydi’ch cymdogion yn cael yr un broblem?
Cyngor ar ddŵr cymylog/gwyn – oriau neu ddyddiau
Os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau uchod, mae’n debyg mai gwaith ar y brif bibell ddŵr sy’n gyfrifol ac mae aer wedi cael ei ddal y dŵr ac wedi hydoddi. Byddai hyn yn para tua 24 awr fel arfer.
Gallwch gymryd y camau a ganlyn i geisio datrys y broblem:
- Gadewch i’r dŵr redeg o’r tap am 30 munud neu ragor
- Cysylltwch â ni ar 01582 344374 i holi a oes unrhyw waith wedi bod yn mynd rhagddo yn eich ardal
- Os yw’r broblem yn para dros 24 awr, efallai y bydd angen i ni fflysio’r brif bibell ddŵr. Cysylltwch â ni ar 01582 344374
Os yw’r broblem wedi para am wythnosau neu fisoedd, ac os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn ar adran isod.
Ydi’r dŵr tap i’w weld yn llawn swigod, yn gymylog neu’n wyn?
Ydi’r dŵr yn clirio o’r gwaelod i fyny os byddwch yn rhoi dŵr mewn gwydr?
Ydi’r dŵr yn clirio ar ôl iddo lifo o’r tap am ychydig?
Ydi’r dŵr ychydig yn gynnes ar y dechrau?
Ydi’r dŵr yn gymylog o un tap yn unig?
Ydi’r dŵr yn gymylog yn eich eiddo chi ond yn glir yn eiddo’ch cymydog?
Cyngor ar ddŵr cymylog/gwyn – wythnosau neu fisoedd
Os ‘Ydi’ oedd eich ateb i’r cwestiynau uchod, mae’n debyg mai problem y tu mewn i’ch eiddo chi sy’n gyfrifol. Gall gwres o’r peipiau dŵr poeth neu’r boelar gynhesu’ch dŵr oer a’i droi’n gymylog. Gall y dŵr droi’n gymylog hefyd os yw’ch stop-tap neu falf arall ar gau’n rhannol.
Gallwch gymryd y camau a ganlyn i geisio datrys y broblem:
- Lagiwch eich pibellau rhag i’r pibellau poeth gynhesu’r dŵr oer
- Gwnewch yn siŵr bod pob stop-tap y tu mewn a’r tu allan i’ch eiddo, ac unrhyw falfiau ynysu ar eich tapiau, ar agor yn llawn
- Os yw’r broblem yn parhau, cysylltwch â phlymar cymeradwy (watersafe.org.uk) i ofyn am gyngor.
- Os nad yw hyn yn datrys y broblem, cysylltwch â ni ar 01582 344374




