Halogiad tanwydd

Gall cemegion o danwydd neu olew gwresogi deithio drwy bibellau plastig a halogi’ch cyflenwad dŵr.

Os ‘Oes/Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod.

Oes yna flas tanwydd neu hydoddion ar eich dŵr?

Ydych chi’n cadw tanc tanwydd ar eich eiddo?

A oes tanwydd wedi gollwng neu orlifo gerllaw?

Ydi’ch pibell ddŵr, neu ran ohoni, yn blastig?

Ydi’ch tanc tanwydd wedi cael ei symud neu ei lenwi’n ddiweddar?

Cyngor ynghylch halogiad tanwydd

Os ‘Oes/Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau uchod, cysylltwch â ni ar unwaith ar 01582 344374. Gall y cemegion sy’n creu’r blas a’r arogl fod yn niweidiol. Byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn rhoi cyngor i chi.

Mae’n bosibl y bydd angen rhoi peipiau rhwystr plastig yn lle’ch peipiau plastig os yw’r tir ar eich eiddo wedi’i halogi.

Os ydych chi’n gwybod am unrhyw ollyngiadau tanwydd, cysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol cyn gynted â phosibl.