Gall ychydig o blwm ollwng i’r dŵr wrth iddo deithio drwy bibellau plwm. Gall plwm adeiladu yn y corff dros gyfnod a gall hynny fod yn niweidiol. Mae’r effaith yn arbennig o niweidiol i blant a merched beichiog. Mae adeiladau a gafodd eu codi cyn 1970 yn debygol o fod â phibellau plwm, ac mae’n bosibl bod pibellau a gafodd eu gosod cyn 1987 wedi’u huno â sodr plwm.
I weld a oes gennych bibellau plwm, cymerwch y camau a ganlyn:
- Chwiliwch am y bibell sy’n dod o’r stop-tap yn eich eiddo
- Os nad yw pibellau plwm wedi’u peintio, byddant yn llwyd tywyll neu’n ddu a bydd yr uniadau wedi chwyddo
- Crafwch y bibell yn ofalus â darn arian. Os yw’n bibell blwm, bydd stribedi arian gloyw yn dod i’r golwg
- Os byddwch yn cyffwrdd pibell blwm â rhywbeth metel, byddwch yn clywed sŵn trwm yn hytrach nag atsain clir
I leihau’r plwm yn eich dŵr:
- Defnyddiwch y tap dŵr oer ar gyfer eich dŵr yfed a choginio. Bydd mwy o blwm yn hydoddi yn y tap dŵr poeth.
- Gadewch i’r dŵr lifo am ychydig funudau cyn ei ddefnyddio i glirio’r dŵr sydd wedi bod yn sefyll yn y peipiau.
Lawrlwythwch y Daflen Ffeithiau am Blwm gan y Bartneriaeth Iechyd Dŵr



