Yn y gegin
Caiff tua chwarter o ddŵr y cartref ei ddefnyddio yn y gegin. Defnyddiwch yr awgrymiadau da isod i ddefnyddio llai o ddŵr.
Peidiwch â gorlenwi’ch tegell; dylech ond ferwi’r dŵr sydd ei angen arnoch bob amser.
Defnyddiwch eich peiriant golchi llestri pan fydd yn llawn a defnyddiwch y gosodiad eco.
Os nad oes gennych chi beiriant golchi llestri, llenwch bowlen golchi llestri i wneud y gwaith, yn hytrach na defnyddio tap sy’n rhedeg. Gallwch ddefnyddio’r dŵr sydd wedi’i gasglu yn y bowlen i ddyfrio’ch gardd pan fyddwch wedi gorffen.
Os oes angen i chi olchi llysiau, llenwch bowlen â dŵr a defnyddiwch y dŵr yn eich gardd neu ar gyfer eich planhigion yn y tŷ pan fyddwch wedi gorffen.
Cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell fel bod gennych ddŵr oer yn barod i’w yfed, a does dim rhaid i chi redeg eich tap nes bod y dŵr yn oer.
Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad pan fydd gennych lwyth llawn, a defnyddiwch y gosodiad mwyaf effeithlon o ran dŵr.
Trwsiwch dŵr yn gollwng cyn gynted â phosibl.
Dewiswch offer / peiriannau sy’n effeithlon o ran dŵr lle bo modd.
Yn yr ystafell ymolchi
Mae cawodydd, toiledau a baddonau yn cyfrif am tua hanner y defnydd o ddŵr mewn cartrefi. Defnyddiwch yr awgrymiadau isod i ddefnyddio llai o ddŵr.
Diffoddwch y tapiau pan fyddwch chi’n brwsio’ch dannedd, gallai hyn arbed tua 6,000 litr o ddŵr y flwyddyn i chi!
Cymerwch gawod yn hytrach na bath, mae bath nodweddiadol yn defnyddio tua 80 litr o ddŵr. Ceisiwch dreulio llai o amser yn y gawod i arbed hyd yn oed mwy o ddŵr.
Gosodwch ben cawod sy’n arbed dŵr, mae pen cawod llif isel nodweddiadol yn defnyddio tua 6 litr y funud o’i gymharu â phennau cawod safonol a all ddefnyddio 10-15 litr y funud. Gall cawodydd pŵer ddefnyddio mwy o ddŵr na bath yn aml.
Defnyddiwch y swyddogaeth fflysio sengl ar eich toiled os oes gennych un, mae toiledau fflysio deuol yn defnyddio tua 4-6 litr fesul sgwd dŵr tra gall modelau hŷn ddefnyddio hyd at 13 litr. Ystyriwch osod Dyfais Dadleoli Seston (CDD) i gyfyngu ar y swm o ddŵr sy’n cael ei fflysio os oes gennych doiled o ddyluniad hŷn, neu uwchraddiwch i doiled sy’n effeithlon o ran dŵr.
Atgyweiriwch ollyngiadau cyn gynted â phosibl, gall toiled sy’n gollwng wastraffu hyd at 400 litr o ddŵr y dydd.
Yn yr ardd
Casglwch ddŵr glaw mewn casgenni dŵr i ddyfrio’ch planhigion.
Defnyddiwch ganiau dyfrio i ddyfrio’ch gardd yn hytrach na thaenellwyr dŵr. Dewiswch yr amser gorau i ddyfrio’ch planhigion, mae dyfrio yn y bore a chyda’r nos yn lleihau anweddiad, a bydd dyfrio gwreiddiau’ch planhigion yn osgoi gwastraffu dŵr lle na fydd ei angen ar y planhigion.
Os oes angen i chi ddefnyddio pibell ddŵr, gall ffroenell sbardun helpu i leihau gwastraff.
Gadewch i’ch lawnt fynd yn frown mewn tywydd poeth, bydd yn gwella’n gyflym unwaith y bydd hi’n bwrw glaw.
Defnyddiwch domwellt ar welyau blodau i helpu i gadw lleithder yn y pridd a lleihau’r angen i ddyfrio.
Golchwch eich car gan ddefnyddio bwced o ddŵr neu bibell ddŵr gyda ffroenell sbardun.
Atgyweirio unrhyw dapiau allanol sy’n gollwng
