Defnyddiwch yr awgrymiadau da isod i wastraffu llai o ddŵr a gwella effeithlonrwydd.
Dylech wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio – darllenwch y mesurydd yn rheolaidd. Os byddwch chi’n sylwi ar ddata anarferol, gallai hyn fod yn arwydd o ddŵr yn gollwng.
Ystyriwch ailddefnyddio dŵr os oes gennych brosesau sy’n defnyddio llawer o ddŵr – gallwn roi cyngor ac arweiniad i helpu i nodi ble y gallech wneud hyn.
Trwsiwch dŵr yn gollwng cyn gynted â phosibl.
Prynwch offer / peiriannau sy’n effeithlon o ran dŵr pan fyddwch chi’n newid offer.
Addysgwch staff ar effeithlonrwydd dŵr.
Yn y gegin
Ystyriwch ddarparu dŵr yfed mewn oeryddion dŵr (water coolers) i osgoi defnyddio gormod o ddŵr o dapiau sy’n rhedeg.
Defnyddiwch beiriannau golchi llestri pan fyddan nhw’n llawn a dewiswch y gosodiad mwyaf effeithlon o ran dŵr.
Yn y toiledau
Trwsiwch dapiau sy’n diferu / methu cau neu doiledau sy’n gollwng dŵr.
Ar gyfer toiledau hŷn, ystyriwch ddefnyddio Dyfeisiau Dadleoli Seston (CDDs) i leihau faint o ddŵr a ddefnyddir wrth fflysio.
Gosodwch sestonau fflysio deuol a gwnewch yn siŵr bod staff yn gwybod sut i’w defnyddio i leihau gwastraff.
Ar gyfer wrinalau neu doiledau sy’n fflysio’n awtomatig, gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u diffodd pan na fyddan nhw’n cael eu defnyddio, neu ystyriwch ddefnyddio dyfais sy’n eu rheoli.
Ystyriwch osod pennau cawod sy’n arbed dŵr ar gawodydd (ac eithrio cawodydd diogelwch).
Ar eich tir
Defnyddiwch jetiau chwistrellu pwysedd uchel i lanhau; maen nhw’n gallu defnyddio llai o ddŵr na phibellau confensiynol.
Casglwch a defnyddiwch ddŵr glaw i ddyfrio planhigion.
Adolygwch yn rheolaidd faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio i gynnal a chadw’ch tir ac i lanhau cerbydau a ffenestri.
