Buddsoddiad o £1 biliwn ar gyfer Melin Shotton

Mae Albion Eco yn falch o weithio gyda Melin Shotton yn dilyn buddsoddiad o £1 biliwn yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd yn sicrhau swyddi lleol ac yn creu’r campws papur mwyaf datblygedig yn Ewrop. Bydd y felin yn defnyddio prosesau cynhyrchu cynaliadwy ac yn ailgylchu papur gwastraff a fyddai, fel arall, yn cael ei allforio dramor neu ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae disgwyl i’r buddsoddiad fod yn hwb i allforion papur Cymru a’r DU gan leihau’n dibyniaeth ar bapur sy’n cael ei fewnforio.

Mae Albion Eco yn falch iawn y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at swyddi o safon yn yr ardal leol ac yn sicrhau dyfodol y safle.

Dywedodd David Knaggs, Rheolwr Gyfarwyddwr Albion Eco, “Rydym yn falch o gael gweithio’n agos gydag Eren, eu contractwyr, a’r staff ar y safle sy’n darparu gwasanaethu dŵr i’r safle yn ystod y gwaith o’i ailddatblygu ac i sicrhau dŵr clyfar a gridiau ailgylchu i helpu i sicrhau’r cyflenwadau cynaliadwy sydd eu hangen pan fydd y peiriannau papur wedi’u comisiynu’n llawn”

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru:

Buddsoddiad o £1 biliwn yn sicrhau dros 300 o swyddi yn y Gogledd | LLYW.CYMRU