Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod sychder ar draws Cymru gyfan. Er iddi fwrw glaw mewn rhai ardaloedd, dim ond 55% o’r glawiad arferol a gafwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros y chwe mis diwethaf.
Mae’n hanfodol canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ac osgoi defnyddio dŵr yn ddiangen os ydym am ddiogelu’r amgylchedd ac osgoi’r posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau yn y dyfodol.
Rydym ni yn Albion Eco yn falch o gynnig cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid yn ein hardal a byddwn yn gweithio gyda’r cwmnïau dŵr cyfagos i ddiogelu’n hadnoddau gwerthfawr.
