Lansio adroddiad ‘Bricks and Water 3’

Roedd Waterlevel yn falch iawn o fod yn bresennol yn y cyfarfod i lansio’r adroddiad Seneddol ‘Bricks and Water’ sef y trydydd adroddiad mewn cyfres o ymchwiliadau gan Fforwm Busnesau Cynaliadwy San Steffan. Mae Bricks and Water 3 yn gwneud 10 o argymhellion clir sy’n cynnwys yr angen i ddiwygio’r modd y caiff y Polisi Cynllunio ei roi ar waith, yr angen i ddatblygu systemau draenio cynaliadwy ac i ragor ymgymryd â mesurau i gryfhau gallu eiddo i wrthsefyll llifogydd.

Mae gan David Knaggs, Rheolwr Gyfarwyddwr Waterlevel, wybodaeth uniongyrchol am y rhwystrau sy’n atal cystadleuaeth ac arloesedd yn y diwydiant dŵr, a chyfrannodd at yr ymchwiliad. Dywedodd y canlynol, “gellid ychwanegu eitem ychwanegol at y deg argymhelliad ardderchog yn yr Adroddiad –wrth i Gwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth a Phenodiadau ac Amrywiadau Newydd ddarparu gwasanaethau carthffosiaeth ar gyfer datblygiadau newydd, p’un ai mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, neu y tu allan iddynt, rhaid ystyried a ddylid cysylltu dŵr gwastraff â rhwydwaith canoledig neu a ddylid defnyddio cynllun ailgylchu dŵr cymunedol. Dylid ystyried pa mor gost effeithiol a chynaliadwy yw’r cynigion cyn penderfynu ar y cynllun a fydd yn cael y croes-gymhorthdal sylweddol sy’n rhan annatod o fodel y monopolïau rhanbarthol.”

Mae’n rhaid gwneud rhagor i sicrhau bod cwmnïau cael eu hysgogi i ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n ateb y diben.

Delwedd: Policy Connect

Delwedd: Policy Connect