Lansio ‘Dŵr Yfed 2022 – Cyflenwadau Cyhoeddus Cymru’

Roedd Albion Eco yn falch o fod yn bresennol yn y cyfarfod i lansio ‘Dŵr Yfed 2022 – adroddiad y Prif Arolygydd i ddŵr yfed yng Nghymru’ gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yng Nghaerdydd ar 14 Gorffennaf 2022. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion y problemau cysylltiedig ag ansawdd dŵr yfed yng Nghymru yn 2022, gan gynnwys profion dŵr yfed, cydymffurfio â’r safonau, methu â chydymffurfio, digwyddiadau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr, yn ogystal â throsolwg o waith yr Arolygiaeth (mae adroddiad ar wahân ar gyfer Lloegr). Mae ein record ragorol o ran ansawdd dŵr yn parhau, nid oedd dim problemau o ran cydymffurfio â’r safonau a dim digwyddiadau yn 2022. Llwyddodd y cwmnïau dŵr yn eu cyfanrwydd yng Nghymru i sicrhau lefel cydymffurfio o 99.97% yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd Marcus Rink, Prif Arolygydd Dŵr Yfed, drosolwg o gynnwys yr adroddiad a’r heriau cysylltiedig ag ansawdd dŵr a chyflenwadau dŵr yng Nghymru. Eglurodd y meysydd y mae’r Arolygiaeth yn gofyn i gwmnïau dŵr ganolbwyntio arnynt yn ystod y blynyddoedd nesaf, sef y newid yn yr hinsawdd, risgiau newydd a’r risgiau sy’n parhau, cynlluniau o’r ffynhonnell i’r tap a chyflenwadau dibynadwy.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma .