Statws tywydd sych estynedig

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Albion Eco wedi bod yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru, ei swmp-gyflenwr dŵr a’i gwsmeriaid ynghylch effaith tywydd sych ar adnoddau. Dim ond 58% o’r glaw arferol sydd wedi disgyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru ers mis Chwefror eleni. Oherwydd hynny, a’r ffaith bod llif Afon Dyfrdwy yn llai nag arfer, rhoddwyd statws ‘tywydd sych estynedig’ i’r dalgylch. Mae’n bwysig bod pob defnyddiwr yn deall effaith y tywydd sych ac yn ymdrechu i ddefnyddio’n hadnoddau dŵr gwerthfawr yn y ffordd fwyaf effeithlon bosilb. Bydd Albion Eco yn cysylltu â’i holl gwsmeriaid dros yr wythnosau nesaf i roi cyngor, cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf i’w helpu i osgoi defnyddio dŵr yn ddiangen.