Water Resources West

Oherwydd presenoldeb gweithredol Albion Eco ar Lannau Dyfrdwy, Cymru, gwahoddwyd Waterlevel (rhiant-gwmni Albion Eco) i ymuno ag Uwch Grŵp Rheoli Water Resources West (WRW).

Pan ymunodd â’r cyfarfod cyntaf yn 2024, roedd Albion Eco yn gallu sôn am rai o’i uchelgeisiau:

  • sicrhau ffynhonnell ddŵr dibynadwy i fodloni’r galw yn wyneb twf diwydiant yn ardal NAV Shotton a’r cylch
  • gweithio gyda phartneriaid dalgylch i ‘arafu’r llif’ ar y dirwedd i leihau llifogydd i lawr yr afon ac i wella dulliau storio i fyny’r afon.
  • hyrwyddo targedau llymach ar gyfer ailgylchu dŵr lleol mewn datblygiadau tai newydd.

Roedd yr angen i ddeall gofynion echdynnu dŵr busnesau amaethyddol a busnesau nad ydynt yn gyhoeddus yn amlwg iawn a bydd WRW a mentrau tebyg y mae Waterlevel wedi’u cyflwyno eisoes, yn canolbwyntio ar hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am WRW ar eu gwefan.