
Mae Angela yn gweithio yn y diwydiant dŵr ers 2009. Roedd yn allweddol yn y broses o sefydlu swyddogaethau prif swyddfa’r cwmni a sicrhau bod y prosesau’n cadw at safonau ISO a hi hefyd oedd yn arwain y tîm gwasanaethau i gwsmeriaid ar gyfer NAV domestig cyntaf Albion. Gofalodd fod y cwmni’n cynnig gwasanaeth rhagorol wrth i nifer y cwsmeriaid ehangu, gan reoli’r broses o groesawu a chyfathrebu â chwsmeriaid newydd. Ar ôl ymuno â’r Tîm fel Rheolwr Prosesau Busnes, mae Angela yn awr yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cwmni’n cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y farchnad.
