
Mae David yn weithredwr yn y diwydiant dŵr a chanddo 30 blynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Roedd yn gyfrifol am sefydlu gwasanaethau dŵr i gwsmeriaid domestig, rhedeg rhaglen ymchwil doethurol ac ailstrwythuro gweithrediadau Albion yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â rhoi sylw i faterion cydymffurfio, mae David yn awr yn canolbwyntio ar fod yn rhan o farchnadoedd sy’n datblygu a darparu’r gwasanaethau amgylcheddol ehangach sydd eu hangen i gynnal cymunedau cynaliadwy.
