
Ar ôl treulio cryn dipyn o’i yrfa yn gweithio yn UPM Shotton Paper fel Rheolwr Cyfleustodau, ymunodd Kevin â’r tîm yn 2021 fel Arweinydd Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae ganddo sgiliau rheoli prosiect a phrofiad helaeth ym maes diogelwch, cynnal a chadw a gweithredu stêm, cynhyrchu ynni, cyflenwadau dŵr, trin elifiant ac ailgylchu a, chan hynny, gall gymhwyso’i brofiad gwerthfawr yn ystod y broses o ddefnyddio’r buddsoddiad o £600+ miliwn i newid y safle er mwyn cynhyrchu cardbord a hancesi papur yn lle papur.