Mae’r Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003) yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i gwmni dŵr fodloni gofynion eu cwsmeriaid o ran y galw am ddŵr a’r cyflenwad, a hynny heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r ddogfen hon a’r tablau cysylltiedig yn amlinellu sut y bydd Albion Eco yn sicrhau cydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw hyd at 2050. Mae’n ofynnol cynhyrchu’r rhain o dan Ddeddf Dŵr 2003, sy’n nodi bod dyletswydd statudol ar gwmni dŵr i baratoi Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr. Mae Albion Eco wedi ystyried y cyfarwyddyd a’r canllawiau perthnasol wrth baratoi’r Cynllun hwn.
Hyd yma, mae Albion Eco Limited wedi cael un penodiad o dan broses Penodiadau ac Amrywiadau Newydd Ofwat lle mae’n gyfrifol am gyflenwi dŵr yfed.
Melin Shotton, Glannau Dyfrdwy yw’r penodiad hwn (dyfarnwyd ym 1999)
Mae effeithlonrwydd dŵr yn ganolog i ddulliau Albion Eco o ymdrin â dŵr a gwasanaethau. Yn ogystal â darparu cyflenwadau dŵr yfed a dŵr na ellir ei yfed i’n cwsmeriaid, rydym yn sicrhau effeithlonrwydd dŵr drwy nodi ac ymateb yn gyflym i golledion yn y system a thrwy ymgysylltu’n rheolaidd â defnyddwyr.
Mae’r rhan helaeth iawn o’r dŵr a ddefnyddir yn ymwneud â chynhyrchu diwydiannol, o gofio nad oes dylanwadau amlwg o ran yr hinsawdd a dim galw domestig ar hyn o bryd nac yn yr arfaeth. Mae’r cynllun hwn yn dangos y bydd y trefniadau swmp-gyflenwi sydd ar waith yn sicrhau digon o ddŵr i fodloni gofynion ein cwsermiaid dros y 25 mlynedd nesaf.
Nid yw’r cytundeb swmp-gyflenwi gyda Dŵr Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw’r polisi cyfyngiadau presennol (er, yn ymarferol, mae hyn yn debygol) ond mae’n cynnwys cymalau cyfyngol ac mae dulliau cyfathrebu gweithrediadol rheolaidd, felly, yn parhau.
Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho’r ddogfen:
Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Albion Eco 2025-2030
Yn dilyn y cyfnod cyn ymgynghori â rheoleiddwyr a rhanddeiliaid, cyhoeddwyd drafft o’n Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2024 ym mis Tachwedd 2022 ar gyfer cyfnod ymgynghori ar ddaeth i ben ar 24 Chwefror 2023. Dyma’n hymateb ni i’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Albion Eco 2024 – Datganiad yn ymateb i’r ymgynghoriad
Datganiad Albion Eco am Gyfrinachedd a Diogelwch Cenedlaethol mewn perthynas â’r Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr
Datganiad am Gyfrinachedd a Diogelwch 2023
Dyma’r drafft cyntaf o’r Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Tachwedd 2022
Drafft o Gynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Albion Eco 2024 i ymgynghori yn ei gylch
Tablau Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Albion Eco 2024
Drafft o Ganllun Rheoli Adnoddau Dŵr Albion Eco 2024 – Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
