Ar y dudalen hon fe ddewch chi o hyd i gyngor ar faterion cyffredinol am ansawdd dŵr a sut i’w arbed. Os oes angen unrhyw gyngor neu help pellach arnoch, cysylltwch â ni ar 01582 344374.
I weld crynodeb o’r samplau ansawdd dŵr a gymerwyd yn y flwyddyn adrodd ddiwethaf ar gyfer ein safle, cliciwch yma.
Blas ac Arogl:
Blas metelig/chwerw

Os ydych chi wedi cael pibellau newydd neu wedi newid eich plymwaith yn ddiweddar, mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar flas chwerw neu fetelig ar eich dŵr. Gall y blas fod yn fwy amlwg yn y bore neu ar ôl i’r dŵr fod yn sefyll yn y pibellau am gyfnodau hirach. Gall pibellau sy’n…
Halogiad tanwydd

Gall cemegion o danwydd neu olew gwresogi deithio drwy bibellau plastig a halogi’ch cyflenwad dŵr. Os ‘Oes/Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod. Oes yna flas tanwydd neu hydoddion ar eich dŵr? Ydych chi’n cadw tanc tanwydd ar eich eiddo? A oes tanwydd wedi gollwng…
Blas ac arogl pren

Os oes blas neu arogl pren ar eich dŵr, fel pren pensil, mae’n bosibl bod eich peipiau’n hen; mae’r peipiau a gafodd eu defnyddio yn y 1960au a’r 1970au fel arfer yn cynnwys alcathen. Dydi hyn ddim yn niweidiol. Bydd blas y dŵr yn gwella os byddwch yn gadael iddo lifo am ychydig funudau. I…
Blas neu arogl pridd neu lwydni

Os oes blas neu arogl pridd neu lwydni ar eich dŵr, a hynny’n fwy amlwg yn y bore neu pan fydd eich eiddo wedi bod yn wag am gyfnod, gallwch ddatrys y broblem fel arfer drwy agor y tapiau i glirio’r dŵr sydd wedi bod yn sefyll yn eich pibellau. Gofalwch fod eich tanc dŵr…
Clorin neu ddiheintydd

Mae blas neu arogl clorin neu ddiheintydd ar ddŵr yn eithaf cyffredin. Os ‘Oes/Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod. Oes yna flas fel clorin, cannydd neu ddŵr pwll nofio ar eich dŵr? Oes yna flas neu arogl clorin ar eich dŵr mewn diodydd oer…
Golwg y dŵr a phroblemau eraill
Plwm mewn dŵr yfed

Gall ychydig o blwm ollwng i’r dŵr wrth iddo deithio drwy bibellau plwm. Gall plwm adeiladu yn y corff dros gyfnod a gall hynny fod yn niweidiol. Mae’r effaith yn arbennig o niweidiol i blant a merched beichiog. Mae adeiladau a gafodd eu codi cyn 1970 yn debygol o fod â phibellau plwm, ac mae’n…
Fflworid

Mae lefelau isel iawn o fflworid mewn dŵr yfed yn naturiol. Mae’r lefel yn dibynnu ar y math o graig sydd gerllaw tarddiad eich cyflenwad dŵr. Weithiau, gofynnir i gwmnïau dŵr ychwanegu fflworid i wella iechyd y dannedd. Mae lefel y fflworid sy’n cael ei ganiatáu mewn dŵr yfed yn llawer is na’r lefel sydd…
Caledwch y dŵr

Mae’r dŵr yn ein hardal cyflenwi ni’n feddal.
Darnau mân, staeniau a llysnafedd

Os byddwch yn sylwi ar ddarnau mân yn eich dŵr sy’n teimlo’n llysnafeddog, mae’n bosibl mai sborau llwydni sy’n achosi’r rhain. Maent yn cael eu cludo drwy’r awyr ac yn tyfu mewn llefydd llaith. Os ‘Oes’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod. Oes yna ddarnau…
Dŵr afliwiedig

Gall eich dŵr edrych yn ddu, brown, oren, coch, melyn neu las os oes haearn neu gopr ynddo. Os yw’ch dŵr tap wedi newid ei liw, a hynny ers rhai oriau neu ddiwrnodau, ac os ‘Ydi’ yw’ch ateb i’r cwestiynau isod, neu i rai ohonynt, dilynwch y cyngor yn yr adran isod. Ydi’ch dŵr tap…
Dŵr cymylog/gwyn

Swigod aer bach sy’n troi dŵr yn gymylog neu’n wyn. Nid ydynt yn niweidiol ac, fel arfer, byddant yn clirio’n gyflym. Os byddwch yn llenwi gwydr o ddŵr ac yn ei adael i sefyll, dylai’r swigod glirio o waelod y gwydr i fyny. Nid yw’r dŵr yn niweidiol, ac mae’n iawn i’w yfed. Dau beth…
Cyngor arbed dŵr
Cyngor arbed dŵr i gwsmeriaid domestig
Yn y gegin Caiff tua chwarter o ddŵr y cartref ei ddefnyddio yn y gegin. Defnyddiwch yr awgrymiadau da isod i ddefnyddio llai o ddŵr. Peidiwch â gorlenwi’ch tegell; dylech ond ferwi’r dŵr sydd ei angen arnoch bob amser. Defnyddiwch eich peiriant golchi llestri pan fydd yn llawn a defnyddiwch y gosodiad eco. Os nad…
Cyngor arbed dŵr i gwsmeriaid masnachol
Defnyddiwch yr awgrymiadau da isod i wastraffu llai o ddŵr a gwella effeithlonrwydd. Dylech wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio – darllenwch y mesurydd yn rheolaidd. Os byddwch chi’n sylwi ar ddata anarferol, gallai hyn fod yn arwydd o ddŵr yn gollwng. Ystyriwch ailddefnyddio dŵr os oes gennych brosesau sy’n defnyddio llawer o…
