


Dr Jerry Bryan, prif gyfranddaliwr Waterlevel, oedd y cyntaf i ymateb i her Ofwat i ganiatáu cystadleuaeth yn y diwydiant dŵr ym 1999. Ar ôl cyfnod o dreialu ac o brofi’r farchnad, llwyddodd ef a’i gyd-gyfranddalwyr cychwynnol i sicrhau eu trwydded NAV gyntaf i gyflenwi dŵr yfed a dŵr na ellir ei yfed i felin bapur fwyaf y DU a gaiff ei gweithredu gan UPM-Kymmene yn Shotton. Oherwydd natur y berthynas hon, bu modd i Albion Water, is-gwmni rheoledig cyntaf Waterlevel, ei amddiffyn ei hun yn erbyn arferion gwrth-gystadleuol niweidiol, hirfaith yn ystod yr hyn a oedd, yn y pen draw, yn ddyfarniad cyfreithiol o bwys gan y Tribiwnlys Apelau Cystadlu.
Yn y cyfamser, ar ôl sicrhau prosiectau NAV ychwanegol yng ngwasanaethau marchnad domestig Lloegr, roedd Waterlevel yn falch o sefydlu menter ar y cyd â Wessex Water i ddatblygu ei wasanaethau dŵr cymunedol. Ar ddiwedd cytundeb 5 mlynedd, yn 2021, trosglwyddwyd cyfranddaliadau Waterlevel yn Albion Water i Wessex Water.
Cafodd cwsmeriaid Albion Water yng Nghymru eu trosglwyddo i Albion Eco yn 2016, ychydig cyn ei fenter ar y cyd â Wessex Water ac, yn dilyn cyfnod arall o wasanaeth rhagorol, y cwmni hwn yw’r cyflenwr rheoledig o hyd, ac sy’n darparu gwasanaethau dŵr tra bydd y safle’n newid ei brosesau i gynhyrchu cardbord yn lle papur.
Mae gennym gryn dipyn o brofiad ym maes diwydiant a chystadleuaeth ac yn deall felly bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y gallu gennym i wrthsefyll yr heriau sydd ynghlwm wrth y galw cynyddol am ddŵr a’r modd y mae’r newid yn yr hinsawdd a’r niwed i swyddogaethau amgylcheddol natur yn bygwth ein cyflenwadau dŵr. Rydym yn parhau i gydweithio, ac weithiau, i fraenaru’r tir er mwyn cael gwared ar rwystrau sy’n atal y diwydiant dŵr rhag cymryd camau arloesol – yn enwedig ar lefel gymunedol. Mae EDRS ac Ecolevel wedi ymuno â Waterlevel yn ddiweddar i chwilio am ddatblygiadau cynaliadwy yn y farchnad.
Cynnal cymunedau cryf yw conglfaen y gwasanaethau mae Waterlevel yn eu cynnig, yn ogystal â’r dasg hanfodol o wrando ar farn ein rhanddeiliaid. Ar ôl gweithio’n ddiflino i gynnal bioamrywiaeth ym maes rheoli mannau agored cyhoeddus ac ar ei ddaliadau tir, mae’n awr yn chwilio am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau cyfalaf naturiol.
