Marchnadoedd newydd

Mae’r tîm rheoli sy’n sbarduno’n twf a’n gweithrediadau presennol yn cynnwys yr un uwch gyfarwyddwyr a oedd yn gyfrifol am fentro i fonopoli’r diwydiant dŵr ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Er mwyn herio meddylfryd a thechnoleg yr ugeinfed ganrif (nad yw wedi newid rhyw lawer ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg), rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn gartref i waith ymchwil a threialon yn ymdrin ag anwedd-drydarthiad, systemau trin gwlypdiroedd eang, rôl meicro-topograffeg ym maes gwaredu maetholion, trin algâu trydyddol i ddiraddio cemegion fferyllol, rôl unedau gwaredu gwastraff bwyd ym maes cynhyrchu ynni cymunedol ac annog datblygwyr i gynnwys systemau ailgylchu dŵr mewn datblygiadau newydd.

Mae’r meddylfryd blaengar hwn hefyd yn sail i’n huchelgais i fod yn llwyfan ar gyfer cynlluniau arloesol, fel ein prosiect gwrthsefyll sychder. O gofio bod tywydd sych yn broblem sy’n mynd yn gynyddol ddifrifol a chyffredin, rydym yn ceisio sefydlu cadwyn cyflenwi brys, sy’n yswiriadwy, o ffynonellau cynaliadwy dramor.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn ymdrechu’n barhaus i hyrwyddo technoleg darfol, ond cynaliadwy, ac rydym yn credu y gallwn helpu i gyflwyno’r dechnoleg hon i’r farchnad.

Mae awdurdodau cynllunio lleol yn gallu dibynnu arnom i gynnig ymgymeriad sicr, a ategir gan ein statws rheoledig, pan fydd angen iddynt sicrhau datblygiad sy’n niwtral o ran maetholion neu ddŵr. Byddwn yn cynnal trafodaethau â rheoleiddwyr, cynllunwyr (fel awdurdodau cymwys) a datblygwyr i sicrhau credydau Nitrogen a Ffosfforws ar gyfer cartrefi newydd, gan ddod o hyd i atebion dibynadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gall yr atebion hyn hefyd helpu i ddatrys problemau carbon, gwella bioamrywiaeth, amddiffyn safleoedd rhag llifogydd a gwella pridd.