Polisi Preifatrwydd

Amdanom ni

Mae Waterlevel Limited a’i is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Albion Eco Limited wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd. Mae swyddfa gofrestredig ein cwmni yn C/- Sable International, 5ed Llawr, 18 St. Swithin’s Lane, Llundain, EC4N 8AD a’n rhif cofrestredig yw 4753001. Waterlevel Limited fel y cwmni sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol yw’r Rheolwr Data. Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein cyfeirnod cofrestru yw ZB538305. Mae’r Hysbysiad hwn yn berthnasol i gwsmeriaid, contractwyr, cyflenwyr, gweithwyr contractwyr, datblygwyr, ymwelwyr â’n lleoliadau a’n gwefan, unigolion sy’n gwneud ymholiadau cyffredinol am ein gwasanaethau, unrhyw aelod arall o’r cyhoedd yr ydym yn delio ag ef wrth arfer ein pwerau statudol, darpar weithwyr, canolwyr a phobl eraill y byddwch yn darparu eu manylion i ni.

Pam mae angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun i ni

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut a pham rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym amdanoch chi’ch hun a beth y gallwn ei ddysgu amdanoch chi gan eraill, o bosibl. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn gwneud hyn ac yn egluro’ch hawliau.

Fel cwmni, rydym yn gallu caffael dŵr trwyddedig a/neu wasanaethau carthffosiaeth ar gyfer eich safleoedd cymwys ac mae angen i ni gael gwybodaeth amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn ac er mwyn codi tâl am eu defnyddio a/neu i roi cyngor.

Rydym yn dweud rhagor am y modd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth yng ngweddill yr Hysbysiad a gobeithio y byddwch yn ei ddarllen yn ofalus.

Pa ddata personol fyddwn ni’n ei gasglu?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn defnyddio’ch data personol fel a ganlyn:

Y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni

Gallwch roi gwybodaeth bersonol i ni drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefannau sef www.waterlevel.uk neu www.albioneco.co.uk (ein gwefan ni) neu drwy gysylltu â ni dros y ffôn, yr e-bost neu drwy ddulliau eraill. Gallai hyn fod yn wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio ein gwefannau, yn cofrestru fel cwsmer, yn ein talu (drwy ein gwefannau neu fel arall), yn cofrestru â gwasanaeth neu’n ei ddefnyddio, yn cymryd rhan mewn byrddau trafod ac adrannau’r cyfryngau cymdeithasol eraill ar ein gwefan neu’n cymryd rhan mewn cystadlaethau, ymgyrchoedd hyrwyddo neu arolygon. Gall y wybodaeth a byddwch yn ei rhoi gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol, gwybodaeth ariannol a cherdyn talu. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o ddŵr a’ch cysylltiadau â’r prif gyflenwad dŵr, y system garthffosiaeth a draeniau. Weithiau, bydd angen i ni ofyn a yw’n iawn i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am eich iechyd chi neu iechyd y rhai sy’n byw gyda chi (gan gynnwys pobl a allai gael eu galw’n ‘agored i niwed’). Gall hyn wneud gwahaniaeth i’r hyn rydym yn ei gynnwys ar eich bil a’r modd y byddwn yn eich bilio a’i gwneud yn haws i ni’ch helpu chi os bydd problem yn codi o ran cyflenwi gwasanaethau. Darllenwch yr adran Gwasanaethau â Blaenoriaeth i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych yn gwneud cais am swydd gyda ni, byddwn yn gofyn i chi roi’ch manylion personol i’w defnyddio fel rhan o’r broses recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran Os byddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni. Os byddwch yn hawlio yn ein herbyn neu os byddwn ni’n hawlio yn eich erbyn chi, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwybodaeth gysylltiedig er enghraifft, y symiau sy’n ddyledus neu wybodaeth feddygol, fel rhan o’r broses hawlio.

Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i ni, mae’n bosibl y byddwn yn ei chasglu pan fyddwn yn darparu gwasanaeth i chi. Er enghraifft, y wybodaeth a gawn wrth i ni ddarllen eich mesurydd, neu wrth i chi ddweud wrthym faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am gysylltiadau â’r prif gyflenwad dŵr, carthffosydd a draeniau (gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad fel pwysedd a hanes llifogydd) a gallwn hefyd gasglu manylion am berchnogaeth tir a deiliadaeth unrhyw eiddo. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan gwmnïau cyfleustodau eraill os ydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau â blaenoriaeth gyda nhw a’ch bod wedi rhoi caniatâd iddynt rannu gwybodaeth â ni. Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth amdanoch sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus. Neu gallwn gasglu data personol a gawn gennych os byddwn yn cyfarfod â chi yn bersonol, er enghraifft, yn ystod ymweliad â’ch cartref, safle neu fusnes. Ar gyfer cwsmeriaid busnes, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth am eich cwmni gan Dŷ’r Cwmnïau i’n helpu i weinyddu eich cyfrif.

Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi pan fyddwch chi’n defnyddio’n gwefan

Pryd bynnag y byddwch yn ymweld â’n gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth a ganlyn yn awtomatig: gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys cyfeiriad y protocol rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu’ch cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr sydd gennych a pha fersiwn, gosodiad parth amser, y math o ategyn porwr sydd gennych a’r fersiwn, y system weithredu a’r platfform; gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y ffrwd clicio ar gyfer Lleolwyr Adnodd Unfath Llawn (URL) i gyrraedd ein gwefan, i fynd drwyddi a’i gadael; yr eitemau y byddwch yn edrych arnynt neu’n chwilio amdanynt, amseroedd ymateb tudalennau, camgymeriadau lawrlwytho, hyd yr ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio â thudalennau (fel sgrolio, clicio, a hofran), a’r dulliau a ddefnyddir i bori oddi ar y dudalen ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddir i ffonio ein gwasanaethau cwsmeriaid.

Gwybodaeth a gawn o ffynonellau eraill

Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o bobl neu sefydliadau rydym yn ymddiried ynddynt (gan gynnwys partneriaid busnes, cwmnïau rydym yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau technegol, talu a chyflenwi, rhwydweithiau hysbysebu, darparwyr gwasanaethau dadansoddi, darparwyr gwybodaeth chwilio, asiantaethau gwirio credyd, asiantaethau adennill dyledion) ac mae’n bosibl y byddwn yn cael gwybodaeth amdanoch chi ganddyn nhw.

Gwybodaeth a gawn gan gwmnïau dŵr eraill

Mae’n bosibl y cawn wybodaeth gyfyngedig amdanoch chi (gwybodaeth am eich pwynt cyflenwi a’r rhif ffôn) gan gwmnïau dŵr eraill sy’n gwerthu dŵr i gwsmeriaid dibreswyl er mwyn eich hysbysu am faterion nad ydynt yn berthnasol i’r gwasanaeth, gan gynnwys digwyddiadau annisgwyl a fydd yn tarfu ar eich cyflenwad dŵr a digwyddiadau argyfyngus. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch chi gan gwmnïau dŵr eraill os byddwch yn cael gwasanaethau cyflenwi dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth ganddyn nhw a ni.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth am amrywiaeth o wahanol resymau ond yn bennaf i:

  • gyflenwi gwasanaethau dŵr a/neu garthffosiaeth, cynnal ansawdd dŵr a gwella effeithlonrwydd dŵr o dan ein rhwymedigaethau cyfreithiol;
  • darparu gwasanaethau ac anfon biliau atoch o dan ein contract ar gyfer cwsmeriaid dibreswyl;
  • darparu help ychwanegol drwy ein cynlluniau disgownt lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny;
  • cyflawni tasgau er budd y cyhoedd drwy arfer ein pwerau fel cwmni dŵr a charthffosiaeth, er enghraifft, i anfon eich biliau dŵr ac adennill ein taliadau;
  • darparu help ychwanegol a chynlluniau disgownt lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny;
  • dilyn ein buddiannau cyfreithlon i gynnal ymchwil i’r farchnad neu arolygon boddhad cwsmeriaid;
  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol fel cynnal seilwaith y rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth.

Sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol?

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch data personol i wneud y canlynol:

  • prosesu ac ymateb i geisiadau, ymholiadau a chwynion gennych chi
  • darparu cynhyrchion a gwasanaethau pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny
  • rheoli a gweinyddu’ch cyfrif
  • cynnal archwiliadau credyd pan fo hynny’n briodol (mae rhagor o wybodaeth yn yr adran Archwiliadau Credyd isod)
  • rhoi gwybod i chi am y gwasanaethau a gewch
  • prosesu taliadau ac adennill symiau sy’n ddyledus i ni
  • cofnodi faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio
  • rheoli gweithrediadau rhwydwaith, cyflenwadau dŵr a materion carthffosiaeth
  • sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol
  • dadansoddi tueddiadau a phroffiliau
  • dadansoddi’r farchnad (data nad yw’n bersonol)
  • cynnal archwiliadau
  • cynnal ymchwil boddhad cwsmeriaid ac ymchwil i’r farchnad
  • gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau
  • atal rhywun rhag cyflawni twyll neu helpu awdurdodau i ymchwilio i dwyll
  • cydymffurfio â rhywbeth sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith
  • gyda’ch cydsyniad chi, awgrymu cynhyrchion a gwasanaethau y credwn a fyddai o ddiddordeb i chi neu roi gwybod i chi am gynigion neu ymgyrchoedd marchnata eraill
  • cysylltu â chi (gan gynnwys drwy negeseuon testun SMS) ynghylch materion sy’n ymwneud â gwasanaethau gan gynnwys yr angen i darfu ar y cyflenwad dŵr, i roi gwybod i chi am argyfyngau, problemau ansawdd dŵr, gwaith cynnal a chadw arfaethedig, neu waith ffordd a allai olygu bod angen cau ffyrdd ac, os ydych yn gwsmer gwasanaethau â blaenoriaeth, i sicrhau bod ein cofnodion yn gywir
  • cysylltu â chi (gan gynnwys drwy negeseuon testun SMS a’r e-bost) i’ch diweddaru pan fyddwn ni’n datrys problem rydych chi wedi tynnu’n sylw ati mewn perthynas â’n gwasanaethau
  • bodloni’n rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud taliadau o dan y Cynllun Safonau Gwarantedig
  • rhoi cyngor penodol i chi ynghylch defnyddio dŵr yn effeithlon ar sail yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym am y modd y byddwch yn defnyddio dŵr yn eich cartref ac i gadw cofnod o unrhyw ddyfeisiau y byddwn yn eu gosod neu ollyngiadau y byddwn yn dod o hyd iddynt
  • helpu i sefydlu, rheoli neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol
  • helpu trydydd parti i gyflawni unrhyw un o’r uchod ar ein rhan

Sut y byddwn yn rhannu’ch data personol?

Ni fyddwn yn rhannu’ch data personol oni bai bod gennym fuddiant neu reswm dilys dros wneud hynny. Os bydd yn rhaid i ni rannu’ch gwybodaeth, byddwn yn rhannu cyn lleied â phosibl i alluogi’r person neu’r sefydliad i wneud yr hyn rydym wedi gofyn iddynt ei wneud neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Efallai y bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau eraill fel a ganlyn.

  • Weithiau, byddwn yn defnyddio asiantaethau a darparwyr gwasanaethau i brosesu gwybodaeth bersonol ar ein rhan. Rydym hefyd yn defnyddio cwmnïau eraill i anfon llythyrau, i brosesu taliadau cerdyn credyd ac i gynnal ein systemau TG. Pan fyddwn yn defnyddio sefydliadau eraill i brosesu’ch gwybodaeth bersonol, byddwn yn sicrhau bod ganddynt fesurau diogelwch digonol ar waith.
  • Efallai y bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth â chontractwyr ac ymgynghorwyr peirianneg sy’n gwneud gwaith ar ein rhan e.e. gwaith adeiladu neu drwsio brys neu hanfodol a allai effeithio arnoch.
  • Os ydym yn gweithredu fel eich manwerthwr dŵr, ac os oes problem gyda’ch cyflenwad dŵr neu garthffosiaeth neu’ch mesuryddion, yna bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda’r cwmni dŵr a charthffosiaeth cyfanwerthu perthnasol er mwyn galluogi iddynt fynd i’r afael â’ch problem. Byddwn yn cadw’r data hwn i’r lleiafswm ac mae’n rhaid iddynt drin eich gwybodaeth yn gyfrinachol yn unol â gofynion eu Trwydded Cyflenwi Dŵr a Charthffosiaeth fel y’i rheoleiddir gan Ofwat.
  • Byddwn yn rhyddhau’ch gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny at ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol neu fel rhan o achos cyfreithiol. Gall hyn gynnwys rhannu’ch gwybodaeth â rheoleiddwyr fel Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Efallai y bydd angen i ni ei rannu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), CCW a WATRS (gwasanaeth ombwdsmon y diwydiant dŵr).
  • Efallai y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol â chyrff y tu allan i’r cwmnïau yn grŵp Waterlevel Limited gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu a’r gwasanaethau tân ac ambiwlans mewn achos o argyfwng (gall hyn gynnwys gwybodaeth am eich iechyd os byddwn yn credu’ch bod mewn perygl).
  • Efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i drydydd parti fel rhan o broses o werthu un neu ragor o’n busnesau. Bryd hynny, efallai y byddwn yn rhoi’ch gwybodaeth i ddarpar brynwr.
  • Pan fyddwn yn cynnal archwiliadau credyd, byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i asiantaethau archwilio credyd. Bydd y wybodaeth hon hefyd ar gael i drydydd parti sy’n ceisio cadarnhau’ch statws credyd. Darllenwch yr adran isod, sef Archwiliadau Credyd, i gael rhagor o wybodaeth.
  • Efallai y byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i drydydd parti sy’n casglu symiau dyledus ar ein rhan ac i asiantaethau budd-daliadau pan fyddwn yn gwneud cais am ddidynnu symiau o fudd-daliadau a gewch gan y wladwriaeth.
  • Byddwn yn datgelu’ch data personol os ydym o dan ddyletswydd i wneud hynny er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi ein hawliau a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risg credyd.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda Swyddogion Iechyd Amgylcheddol awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd at ddibenion gorfodi os nad ydych wedi cydymffurfio â hysbysiadau a gyhoeddwyd gennym i chi o dan ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel cwmni cyflenwi dŵr a/neu garthffosiaeth.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth â hysbysebwyr a rhwydweithiau hysbysebu, neu bartneriaid eraill a ddewiswyd yn ofalus, os oes angen y data arnynt er mwyn anfon hysbysebion perthnasol atoch chi ac eraill. Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth am unigolion y gellir eu hadnabod i’n hysbysebwyr, ond efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth gyfanredol iddynt am ein defnyddwyr. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth gyfanredol o’r fath i helpu hysbysebwyr i gyrraedd y math o gynulleidfa y maent am ei thargedu. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r data personol rydym wedi’i gasglu gennych chi i’n galluogi i gydymffurfio â dymuniadau ein hysbysebwyr drwy arddangos eu hysbysebion i’r gynulleidfa darged honno.
  • Byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda darparwyr gwasanaethau dadansoddi a pheiriannau chwilio sy’n ein cynorthwyo i wella’n gwefan ac i’w gwneud yn haws dod o hyd iddi ar y rhyngrwyd.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth â thrydydd parti sy’n darparu gwybodaeth am chwiliadau dŵr a systemau draenio preswyl a masnachol i ddarparwyr gwasanaethau proffesiynol fel cyfreithwyr a throsglwyddwyr eiddo trwyddedig. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am leoliad carthffosydd, pibellau dŵr etc mewn perthynas ag eiddo i gynorthwyo â’r broses o werthu a phrynu eiddo ac ymholiadau cyfreithiol.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo neu’n rhannu’ch gwybodaeth â chwmnïau eraill yn grŵp Waterlevel Limited at y dibenion rydym wedi’u nodi ond os ydym am ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth heblaw cyflenwi cynnyrch a/neu wasanaethau, neu am reswm na fyddech fel arfer yn ei ddisgwyl, byddwn yn esbonio pam drwy roi gwybod i chi am y newidiadau ac, os bydd angen eich cydsyniad arnom, byddwn yn sicrhau ymlaen llaw eich bod yn fodlon i ni ei rhannu.
  • Os bydd angen i ni amddiffyn neu ymchwilio i hawliad a wnewch yn ein herbyn neu os bydd angen i ni ddwyn hawliad arfaethedig yn eich erbyn chi efallai y byddwn yn rhannu’ch data personol â’ch cynrychiolydd(wyr), ein cynghorwyr cyfreithiol, ein cwmni yswiriant neu’n cynghorwyr proffesiynol.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal arolygon boddhad cwsmeriaid gan ddefnyddio cwmni arbenigol ac y byddwn yn gofyn iddynt geisio barn ein cwsmeriaid am ein gwasanaeth er mwyn i ni ddefnyddio’r adborth i wella’n gwasanaeth.
  • Byddwn yn rhannu adborth gan gwsmeriaid â thimau mewnol perthnasol a chwmnïau sy’n gweithio ar ein rhan fel y gallwn ymateb i anghenion cwsmeriaid a gwella ein gwasanaeth.
  • Fel cwmni dŵr, mae’n ofynnol i ni ymdrin â cheisiadau am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Os yw eich gwybodaeth bersonol yn rhan o’r ymateb i’r cais, byddwn yn ei thrin fel gwybodaeth sydd wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu ac ni fyddwn yn ei darparu ar ffurf a fyddai’n galluogi neb i’ch adnabod.
  • Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda Market Operator Services Limited os ydych chi’n fusnes, elusen neu sefydliad sector cyhoeddus er mwyn galluogi newid rhwng manwerthwyr dŵr a dŵr gwastraff. Mae MOSL yn gorff annibynnol sydd wedi’i sefydlu i helpu i hwyluso agor y farchnad ddŵr i gwsmeriaid busnes ac mae gan MOSL ei bolisi preifatrwydd ei hun sy’n berthnasol i’r defnydd o’ch gwybodaeth gan MOSL. Am ragor o wybodaeth am MOSL a sut y bydd MOSL yn defnyddio eich gwybodaeth, gweler MOSL.
  • Rydym yn cydymffurfio â’r Cod Marchnad sydd, yn ôl y gyfraith, yn llywodraethu’r farchnad fanwerthu ddibreswyl yn yr Alban. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu manylion cyswllt cwsmeriaid dibreswyl rhag ofn y bydd Darparwr Trwyddedig yn gadael y farchnad. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol ac yn cyflawni tasg er budd y cyhoedd.
  • Rydym yn cydymffurfio â’r Cod Marchnad sydd, yn ôl y gyfraith, yn llywodraethu’r farchnad fanwerthu annomestig yn yr Alban. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu manylion cyswllt cwsmeriaid annomestig rhag ofn y bydd Darparwr Trwyddedig yn gadael y farchnad. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol ac yn cyflawni tasg er budd y cyhoedd.
  • Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â darparwyr os ydym am ddangos arwydd o ewyllys da i chi.
  • Os ydych yn derbyn cyflenwad dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth gan gwmni dŵr arall, byddwn yn defnyddio buddiant dilys i rannu’ch gwybodaeth â nhw at ddibenion codi tâl (gan gynnwys manylion unrhyw ddarlleniad mesurydd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth y mae’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i ni ei ddarparu).
  • Pan fyddwch yn cofrestru i gael gwasanaeth â blaenoriaeth gennym ni, efallai y byddwn yn rhannu manylion eich cofrestriad â chwmnïau dosbarthu trydan a chyrff eraill y mae’n ofynnol iddynt, er budd y cyhoedd, roi blaenoriaeth i gwsmeriaid sy’n agored i niwed i wneud yn siŵr eu bod yn gallu addasu eu gwasanaethau i ddiwallu’ch anghenion chi hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n hadran Gwasanaethau â Blaenoriaeth isod.
  • Byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
    ◦ i gadarnhau eich cymhwysedd yn seiliedig ar eich bod yn derbyn budd-daliadau cymwys pan fyddwch wedi gwneud cais am ein cynllun WaterSure ac yn yr achos hwnnw mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wirio eich hawl barhaus i dderbyn budd-daliadau o’r fath a gwneud hyn drwy rannu eich gwybodaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd â gofyniad tebyg i gadarnhau bod y budd-daliadau hyn yn cael eu talu i chi; neu
    ◦ os oes gennych ôl-ddyledion heb eu talu am daliadau dŵr, ac nad ydym wedi gallu datrys ffyrdd eraill o gael taliad gyda chi, yna efallai y byddwn yn gwneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant ystyried talu swm a dynnwyd o unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm y gallech eu derbyn.

Gwasanaethau â Blaenoriaeth

I roi cymorth ychwanegol i gwsmeriaid oherwydd oedran, iechyd, salwch, anabledd neu resymau eraill, rydym yn cynnig ein gwasanaethau â blaenoriaeth. Gwasanaethau am ddim yw’r rhain sy’n ystyried eich anghenion drwy’r math o filiau y byddwn yn eu hanfon neu drwy gynnig cymorth ychwanegol os bydd angen tarfu ar eich cyflenwad dŵr neu’ch gwasanaethau carthffosiaeth.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â chi dros y ffôn, drwy’r e-bost, neges destun neu drwy ymweld â’ch cartref os bydd angen i ni ddarparu gwasanaethau neu gymorth i chi tra bydd gwaith yn mynd rhagddo neu os bydd angen tarfu ar eich gwasanaethau.

Os byddwch yn cofrestru fel cwsmer â blaenoriaeth, bydd eich manylion chi, a manylion unrhyw un y byddwch yn ei enwebu i weithredu ar eich rhan, yn cael eu cadw’n ddiogel ar ein systemau er mwyn i ni fedru eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu eich anghenion neu i’ch cynorthwyo yn y ffordd orau os bydd angen tarfu ar eich gwasanaethau.

Os byddwn yn cael eich manylion gan rywun arall, er enghraifft, gan berthynas neu ofalwr, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud hynny ac yn rhoi cyfle i chi roi gwybod nad ydych chi’n dymuno cael eich ychwanegu at ein cofrestr.

Mae’n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, drefnu gwasanaethau â blaenoriaeth i gwsmeriaid y gellid ystyried eu bod yn agored i niwed neu’n wynebu risg. Y sail gyfreithiol dros gasglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn yw er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, byddwn yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o flaenoriaethu’r cymorth a gynigiwn i chi, yn ôl yr hyn y byddai’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan gyflenwr gwasanaethau hanfodol.

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwybod pwy y bydd angen i ni eu cynorthwyo fwyaf pan fyddant yn colli eu gwasanaethau hanfodol. I sicrhau nad oes neb yn cael ei hepgor, bydd cwmnïau dŵr a chwmnïau dosbarthu trydan yn rhannu gwybodaeth am gwsmeriaid agored i niwed gan wneud yn siŵr ein bod yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai ag anghenion blaenoriaethol yn gyntaf.

Fel rhan o’r trefniadau hyn, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau â blaenoriaeth, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch manylion â chwmnïau dosbarthu trydan er mwyn sicrhau’ch bod yn cael eich ychwanegu at eu cofrestrau hwythau hefyd. Mae’n bosibl y byddwn ninnau’n cael eich manylion os byddwch yn cofrestru â nhw.

Mae sail y cyd-rannu hwn o dan fudd cyfreithlon ac i ddiogelu unigolion sydd mewn perygl.

Os hoffech wybod rhagor am y seiliau cyfreithiol penodol y byddwn yn eu defnyddio a sut y byddwn yn diogelu gwybodaeth sensitif, cysylltwch â’n swyddog diogelu data dpo@wlevel.co.uk.

Byddwn yn gofyn am ddigon o wybodaeth am eich iechyd neu’ch sefyllfa i ni fedru penderfynu ar y cymorth neu’r gwasanaethau y bydd angen i ni eu darparu. Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth os byddwch yn dweud wrthym nad ydych am barhau i fod ar ein cofrestr, oni bai’n bod wedi’i defnyddio i ddarparu gwasanaethau y mae angen i ni gadw cofnod ohonynt er mwyn amddiffyn hawliadau cyfreithiol arfaethedig.

Rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad os byddwch yn enwebu rhywun i dderbyn eich biliau ac i ni gysylltu â nhw ar eich rhan os bydd cynlluniau i darfu ar eich gwasanaeth. Byddwn hefyd yn cysylltu â’r enwebai i gael eich cydsyniad i ni gadw gwybodaeth amdano neu amdani at y dibenion hynny.

Eich hawliau’n ymwneud â Gwasanaethau â Blaenoriaeth

Byddwn yn cysylltu â chi o bryd i’w gilydd i gadarnhau a ydych am barhau i gael gwasanaethau â blaenoriaeth ond os byddwch yn dymuno peidio â chael y gwasanaeth hwn, gallwch gysylltu â customerservices@wlevel.co.uk unrhyw adeg. Gan eich bod yn defnyddio’ch gwybodaeth i ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd, nid yw’n ofynnol i ni ddileu gwybodaeth sy’n cael ei chadw os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran diogelu data yn yr adran Eich Hawliau Chi.

Archwiliadau credyd

Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag asiantaethau gwirio credyd i wneud yn siŵr bod ein cofnodion yn gywir, i wirio a yw risgiau dyled yn berthnasol i chi ac i reoli’n proses casglu dyledion. Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei rhoi i’r asiantaethau hyn yn cynnwys y wybodaeth yn ein cofnodion, fel eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Recordio galwadau

Mae’n bosibl y bydd Waterlevel Limited yn monitro ac yn recordio galwadau yn eu canolfannau galwadau a hynny at ddibenion sicrhau ansawdd, diogelwch a hyfforddiant a byddant yn cadw’r recordiadau am hyd at 5 mlynedd rhag ofn y bydd eu hangen i ddatrys anghydfod neu anghytundeb.

Teledu cylch cyfyng a dal delweddau

Mae’n bosibl y bydd ein safleoedd (gan gynnwys ein meysydd parcio) yn cael eu monitro drwy ddefnyddio camerâu cylch cyfyng ac y caiff eich delwedd ei recordio at ddibenion diogelwch os byddwch yn ymweld ag unrhyw un o’n safleoedd. Byddwn yn gosod arwyddion yn dweud bod system camerâu cylch cyfyng yn cael ei defnyddio. Caiff y delweddau eu cadw am fis cyn eu dileu.

Lle y byddwn yn storio’ch data personol

Bydd yr holl wybodaeth a gawn gennych yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel ac os byddwch yn dewis ein talu â cherdyn talu, yna bydd y trafodion yn digwydd ar weinyddion ein banc a bydd y llif gwybodaeth yn cael ei amgryptio. Os byddwn yn rhoi cyfrinair i chi (neu os byddwch chi’n dewis cyfrinair) bydd angen i chi ei gadw’n gyfrinachol. Peidiwch â’i rannu â neb.

I sicrhau’r gwerth gorau am arian pan fyddwn yn gwella’n systemau cyfrifiadurol a’n gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio trydydd parti’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Fel rhan o rai prosiectau datblygu, mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt yn gweithio gyda’ch gwybodaeth. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cymryd y camau priodol i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel drwy gontractau a gymeradwyir gan yr Undeb Ewropeaidd a drwy sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel o fewn trefniadau diogelwch y DU gan ddefnyddio safonau amgryptio uchel wrth ei throsglwyddo.

Yn anffodus, nid yw anfon gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd cyhoeddus yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn sicrhau diogelwch eich data a anfonir atom drwy e-bost; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich menter eich hun. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym sydd wedi’u cynllunio i atal rhywun nad oes ganddo ein hawdurdod i gael mynediad ato.

Am ba hyd y bydd angen i ni gadw’ch gwybodaeth

Bydd angen i ni gadw gwybodaeth am y modd y byddwch yn defnyddio’n gwasanaethau tra byddwch yn gwsmer i ni ac am chwe blynedd wedyn, rhag ofn y bydd angen cyfeirio ati i ddatrys unrhyw anghydfod neu broblemau a all godi wedi i’n perthynas ddod i ben. Bydd angen i ni gadw gwybodaeth ddienw am y cyflenwad dŵr/carthffosydd yn eich eiddo am gyfnod amhenodol oherwydd ein dyletswydd gyfreithiol i gadw’r cofnodion hyn.

Os byddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni

Byddwn fel arfer yn gofyn i chi roi CV i ni y gallwch ei anfon atom mewn copi caled neu dros e-bost. Gall y wybodaeth a roddwch i ni gynnwys eich enw, oedran, manylion cyswllt, manylion eich addysg, eich hanes cyflogaeth, manylion cyswllt brys, statws mewnfudo, gwybodaeth ariannol (os oes angen i ni gynnal gwiriadau cefndir ariannol), tystiolaeth ddogfennol o’ch hunaniaeth a’ch rhif yswiriant gwladol. Efallai y byddwch yn penderfynu rhannu gwybodaeth arall gyda ni os credwch ei bod yn berthnasol i’ch cais. Lle bo’n briodol, ac yn unol â chyfreithiau’r DU, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch iechyd, amrywiaeth neu fanylion am unrhyw euogfarnau troseddol y bydd angen i ni gael eich cytundeb i’w defnyddio.

Os byddwn yn gofyn am wybodaeth y mae angen eich cydsyniad i’w chasglu a’i defnyddio, byddwn yn dweud wrthych pam rydym yn gwneud hynny ac yn gofyn i chi gytuno i ni ei defnyddio. Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl. Cewch ragor o wybodaeth am hyn os bydd angen i ni ofyn i chi roi’r wybodaeth berthnasol i ni.

Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi

Yn ogystal â’r wybodaeth a gawn gennych chi, mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau eraill cysylltiedig â’ch cyflogaeth flaenorol.

Gwybodaeth a gawn o ffynonellau eraill amdanoch chi ac y gallwn ei rhannu â nhw

Efallai y byddwn yn gofyn am eirda gan berson rydych wedi’i roi fel canolwr. Efallai y byddwn yn cael manylion amdanoch o ffynonellau trydydd parti eraill fel LinkedIn a gwefannau eraill sy’n gysylltiedig â swyddi. Efallai y byddwn yn defnyddio sianeli ar-lein eraill gan gynnwys Facebook a Twitter y gallech eu defnyddio i roi gwybodaeth bersonol i ni a thrwy sianeli ar-lein eraill sy’n dod ar gael i ni. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth amdanoch gan gyn-gyflogwyr, sefydliadau addysgol, cyrff archwilio ac ymgynghorwyr cyflogaeth a recriwtio sy’n cysylltu â ni, neu’r ydym ni’n cysylltu â nhw.

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio’ch data personol:

  • i storio’ch manylion i gysylltu â chi i brosesu ceisiadau am rolau a swyddi y byddwn yn eu hysbysebu fel swyddi gwag
  • i gysylltu â chanolwyr i gael geirda ganddynt
  • i gael manylion am euogfarnau troseddol os oes angen i ni gadarnhau’r rhain ar gyfer y swydd benodol rydych wedi gwneud cais amdani
  • i brosesu, gyda’ch cydsyniad chi, wybodaeth am eich iechyd am resymau cydraddoldeb neu fanylion am euogfarnau troseddol, a hynny i sicrhau bod ein cyflogeion yn ddibynadwy ac i ddiogelu’n henw da.

Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth fel ymgeisydd

Os byddwch yn derbyn swydd a gynigiwn i chi, byddwn yn cadw’ch gwybodaeth cyhyd ag y byddwch yn cael eich cyflogi gennym, ac am chwe blynedd wedi hynny. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, neu os na fyddwch yn derbyn swydd a gynigiwn i chi, dim ond y wybodaeth yn eich cais a’r wybodaeth asesu y byddwn yn eu cadw. Byddwn yn cadw’r holl wybodaeth am hyd at 12 mis ac yna’n ei dinistrio.

Os ydych chi’n ganolwr neu’n gyswllt

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth os ydych yn ganolwr neu’n gyswllt? Byddwn yn defnyddio’ch data personol:

  • i gysylltu â chi os bydd ymgeisydd wedi rhoi’ch enw fel canolwr er mwyn i ni gael geirda gennych; neu
  • i gysylltu â chi os bydd ymgeisydd wedi rhoi’n manylion i ni fel cyswllt os bydd damwain neu argyfwng yn effeithio arnynt.

Os ydym wedi cael eich manylion er mwyn paratoi geirda neu fel cyswllt mewn argyfwng, byddwn yn cadw’r wybodaeth sylfaenol fel eich enw, eich cyfeiriad a’r rhif ffôn er mwyn i ni fedru cysylltu â chi yn y cyswllt hwn.

Eich hawliau

Mae gennych gyfres o hawliau’n ymwneud â’r wybodaeth y byddwn yn ei chadw mewn perthynas â chi, sef:

Eich hawl i gael gwybodaeth

Mae’r Hysbysiad hwn yn enghraifft o hyn. Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r Hysbysiad hwn os bydd angen i ni wneud rhywbeth gwahanol â’ch gwybodaeth ac felly mae’n bosibl y byddwn yn ei newid ar ein safle. Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth pan fyddwn yn ei chasglu gennych chi.

Eich hawl i gywiro gwybodaeth

Mae’n bwysig bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf a’i bod yn gywir felly os ydych yn meddwl bod eich gwybodaeth bersonol yn anghywir neu fod angen ei diweddaru, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei chywiro cyn gynted â phosibl.

Eich hawl i weld gwybodaeth

Mae gennych chi hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw mewn perthynas â chi. Efallai y byddwn yn gofyn am gopi o’ch pasbort neu’ch trwydded yrru ac am gopi o ddogfen sy’n dangos eich cyfeiriad er mwyn i ni fedru rhyddhau’ch gwybodaeth bersonol. Anfonwch eich cais drwy’r e-bost i customerservices@wlevel.co.uk neu cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy ddefnyddio’r manylion ar ddiwedd yr Hysbysiad hwn.

Mae gennym un mis calendr i ymateb i’ch cais am wybodaeth. Os bydd angen rhagor o wybodaeth i brosesu’ch cais, byddwn yn cysylltu â chi.

Eich hawl i ofyn i wybodaeth gael ei dileu

Mae gan gwsmeriaid sy’n unigolion hawl i wneud cais i’w gwybodaeth bersonol gael ei dileu os nad oes diben cyfreithlon mwyach iddi gael ei phrosesu.

Eich hawl i gael gwybodaeth am benderfyniadau wedi’u hawtomeiddio

Os nad yw bod dynol ynghlwm wrth wneud penderfyniad drwy ddefnyddio’ch gwybodaeth, ac mae’n cael ei wneud yn awtomatig, gallwch ofyn i ni sut mae’r penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud. Nid ydym yn gwneud penderfyniadau fel hyn ar hyn o bryd, ond os byddwn yn dechrau, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn dweud pam rydym yn gwneud hynny.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu gwybodaeth

Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu neu atal y defnydd o’ch data personol. Os byddwn yn cytuno y dylem beidio â’i brosesu mwyach, byddwn yn parhau i’w gadw ond ni fyddwn yn ei ddefnyddio.

Eich hawl i wrthwynebu

Os nad ydych yn dymuno i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol mwyach, gallwch ofyn i ni beidio â pharhau i wneud hynny. Ond cofiwch, fod ei angen arnom i ddarparu gwasanaethau i chi ac efallai y bydd angen i ni gadw’ch data am gyfnod penodol, fel rydym wedi esbonio eisoes. Gallwch hefyd ofyn i ni beidio â defnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata. Gallwch arfer yr hawl hwn unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn customerservices@wlevel.co.uk neu drwy gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data drwy ddefnyddio’r manylion ar ddiwedd yr Hysbysiad hwn. Os byddwch yn gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r sefyllfa oherwydd, o dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i ni barhau i’w defnyddio.

Eich hawl i ddata cludadwy

Mae gennych hawl i ofyn i ni anfon copi o’ch gwybodaeth bersonol atoch ar ffurf strwythuredig a ddefnyddir yn gyffredin ac y gall peiriant ei ddarllen.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein safleoedd, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i wefannau rhwydweithiau partneriaid, hysbysebwyr a chyrff ymgysylltiedig, ac oddi wrthynt. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwch y bydd ganddynt eu hysbysiadau neu eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros yr hysbysiadau hyn. Darllenwch yr hysbysiadau hyn cyn cyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol drwy’r gwefannau hyn.

Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd

Byddwn yn diweddaru’n hysbysiad preifatrwydd hwn o dro i dro i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau yn y modd y byddwn yn defnyddio’ch data personol. Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n hysbysiad preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar ein safle ac, os bydd yn briodol, cewch wybod drwy’r e-bost hefyd. Cofiwch edrych ar y wefan yn aml i weld a yw’n hysbysiad preifatrwydd wedi’i ddiweddaru neu wedi newid.

Cwynion

Os nad ydych yn hapus, ac os ydych yn pryderu am y modd rydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth neu’ch hawliau, cysylltwch â ni i ddweud hynny gan ddefnyddio’r manylion isod. Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i’r hyn rydym wedi’i wneud. Ewch i ico.org.uk neu ffoniwch 0303 123 1113.

Cysylltu

Byddem yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a dylech eu hanfon drwy’r e-bost i dpo@wlevel.co.uk neu ysgrifennwch at:

The Data Protection Officer, Waterlevel Limited, Harpenden Hall, Southdown Road, Harpenden, Herts, AL5 1TE

Hysbysiad cwcis

Er mwyn i ni fedru darparu gwasanaeth defnyddiol, dibynadwy a hawdd ei ddefnyddio ar-lein, weithiau bydd angen gosod darnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall – ‘cwcis’ yw’r enw cyffredin ar y ffeiliau hyn.

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o resymau sydd dros ddefnyddio cwci a fyddai’n ein galluogi i’ch adnabod chi – defnyddiwr dienw fyddech chi. Nid ydych yn gallu rhoi sylwadau ar y safle felly nid oes angen i chi fewngofnodi er enghraifft.

Os byddwn yn newid y gosodiadau fel ei bod yn bosibl i chi roi sylwadau, yna bydd angen i chi fewngofnodi i’r safle a chaiff cwcis eu defnyddio i’ch cofio chi a’ch cyfrinair fel na fydd angen i chi eu rhoi eto ar bob tudalen y byddwch yn ei hagor a phan fyddwch chi’n dychwelyd.

Defnyddir cwcis hefyd i wneud y canlynol:

  • dilyn yr hyn mae’r defnyddiwr yn ei wneud i’n helpu ni i weld pa wasanaethau sy’n boblogaidd
  • caniatáu i ni fonitro a gwella’n gwasanaethau i chi.

Mae’r wybodaeth a gaiff ei chasglu gan y cwcis yn ddienw ac nid yw’n bosibl ei defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol na dod o hyd i unrhyw wybodaeth bersonol arall ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais.

Byddwn yn defnyddio rhaglen Google Analytics i gasglu data lleoliad ac i’n helpu i deilwra cynnwys ein gwefan. Caiff y data ei chadw am ddau fis. Os nad ydych yn dymuno i Google Analytics eich olrhain ar draws gwefannau, eich i Google Analytics Opt-out Browser Add-on Download Page

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi.

Fodd bynnag, os ydych am gyfyngu ar y cwcis a gaiff eu gosod gan ein gwefan ni neu gyrff eraill, neu eu hatal yn llwyr, bydd angen i chi fynd i osodiadau’ch porwr.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli rhywfaint ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’ch porwr.

I ddysgu rhagor am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu oddi ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais, ewch i www.aboutcookies.org

Sylwch y gall newid y cwcis effeithio ar y ffordd mae’n gwefan yn gweithio.

I gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data, anfonwch neges i dpo@wlevel.co.uk